Amdanom Ffurfwyd
Cymdeithas Crefftwyr Gwynedd yn 1980 yn wreiddiol, fel cymdeithas
di-broffid gyda'r amcan o hybu crefftwyr lleol a'u crefftau.Yn 1989, ehangodd i gynnwys crefftwyr o Glwyd a chyda'r un amcanion newidwyd yr enw i Gymdeithas Crefftwyr Gwynedd A Clwyd. Heddiw, mae gan y Gymdeithas aelodau ar draws Gogledd Cymru. 'Rydym yn ymfalchïo yn safon uchel crefftwaith ein haelodau, ac yn trefnu ffeiriau crefft ar draws Gogledd Cymru yn flynyddol, gan roi cyfle i'n haelodau i arddangos eu crefftau i'r cyhoedd. Mae'r creffwaith ar werth gan ein haelodau wedi'i gwneud yn gyfan gwbl neu'n sylweddol ganddynt. Os ydych yn grefftwr ac am ymaelodi â'r Gymdeithas, ymwelwch â'n tudalen Aelodaeth. Aelodau'r PwyllgorPwyllgor o swyddogion etholedig sy'n gyfrifol am redeg y Gymdeithas, a reolir gan gyfansoddiad y Gymdeithas. Prif aelodau'r pwyllgor ar hyn o bryd yw:Cadeirydd: Rosalie Davies Is-Gadeirydd: Wendy Edwards Ysgrifennydd: Sarah Anderson Ysgrifenydd Aelodaeth: Hilda Whitfield-Jones Trysorydd: Joan Bakewell Cyd-drefnydd Ffeiriau Crefft: Ann Evans Golygydd Y Cylchlythyr: Tony Vine I yrru neges i un o'r swyddogion, defnyddiwch y ffurflen cyswllt. |
