Bu'r Gymdeithas erioed yn barod i ystyried cais gan drefnwyr digwyddiadau i ofyn i ni drefnu ffair grefftau fel rhan o'ch sioe neu ddigwyddiad arall. Gallwn ddarparu gwasanaeth lle byddwn yn trefnu ffair grefftau fel atyniad ychwanegol yn eich diagwyddiad.
Gallwn ddweud o brofiad fod hyn o fudd i bawb - mae trefnydd sioe yn sicrhau atyniad ychwanegol i'r digwyddiad gyda mwy o ymwelwyr, tra'n bod ni yn cael cyfle i arddangos, gwerthu'n crefftau a weithiau denu aelodau newydd mewn digwyddiadau sefydledig.
Mae ffeirau'r Gymdeithas yn ddigwyddiadau mynediad rhad ac am ddim fel rheol, felly ni fydd rhaid i'ch ymwelwyr dalu dim mwy ar ben cost mynediad arferol i'ch digwyddiad i fynychu'r babell grefftau.
Wrth gwrs, ni allwn addo y bydd pob ymholiad yn dwyn ffrwyth (e.e. problemau dyddiadau, safleoedd anaddas ac ati), byddwn yn ystyried pob cais a dod i benderfyniad mor fuan ag y gallwn. I holi am drefnu ffair grefftau, cysylltwch a'n Cyd-drefnydd Ffeiriau Crefft, Ann Evans, i drafod y posibiliadau.
Teipiwch eich enw, cyfeiriad ebost a'r neges yn y blychau isod. Gwnewch yn siwr eich bod wedi llenwi'r blychau i gyd, ac yna clicio ar y botwm Anfon i yrru'r neges i ni fel ebost. Cliciwch ar y botwm Clirio i glirio cynnwys y blychau os fydd angen.
Enw:
Ebost:
Eich neges:
Hafan