Calendr Ein Ffeiriau Crefft |
||||||||||||||||||||||||||||||
![]() |
||||||||||||||||||||||||||||||
| Mae'r Gymdeithas yn trefnu sawl ffair grefftau pob
blwyddyn. Dyma restr o'n digwyddiadau yn 2012 - sylwer y gall unrhyw un
ohonynt newid heb rybudd lle bydd angen. Ceir mynediad am ddim i'r
babell grefftau yn y rhan fwyaf o'r digwyddiadau, ond weithiau bydd tâl
mynediad i'r safle ei hun (e.e. mynediad i adeiladau'r Ymddiriedolaeth
Genedlaethol). Am ragor o fanylion am y digwyddiadau hyn, neu i fwcio stondin, cysylltwch a'r Cyd-drefnydd Ffeiriau Crefft, Ann Evans. Bydd stondinau yn y ffeiriau ar gael i'w bwcio gan ein aelodau'n unig tan tua 2 fis cyn y dyddiad. Wedi hynny, gallwn gynnig unrhyw stoliau sydd heb eu bwcio i eraill hefyd. Sylwch y byddwch angen Yswiriant Cyfrifoldeb Cyhoeddus os yn masnachu yn unrhyw ffair grefftau, a rhaid bod y nwyddau a werthir wedi'i gwneud yn gwbl neu'n sylweddol â llaw ganddoch chi. Rhaid i unrhyw offer trydannol fel goleuadau ar eich stondin fod wedi pasio prawf PAT. Lle bo'n addas, 'rydym wedi cynnwys côd post i helpu defnyddwyr Llywiwr Lloeren (SatNav) - ond sylwer nad yw côd post yn berffaith gywir i unrhyw un adeilad neu fan unigol y rhan fwyaf o'r amser!
|
||||||||||||||||||||||||||||||
** PWYSIG: 'Rydym yn y broses o drosgwlyddo ffeiriau Y Plasau i ddwylo y Plasau eu hunain (gwefan Y Plasau: www.plassey.com). Fe ail-enwir y ffeiriau fel "Ffair Fwyd Gwledig a Chrefftau Y Plasau". I holi am fwcio stondin cysyllter â Sarah Brookshaw yng nghanolfan Y Plasau, ebost "sarahbrookshaw AT btconnect DOT com" neu ffoniwch 01978 780277. ** Rhestr O Ddigwyddiadau Eraill Gogledd Cymru 2012:Mae gennym hefyd restr o ddigwyddiadau eraill a allai fod o ddiddordeb i grefftwyr - cliciwch ar y ddolen gyswllt isod i weld y rhestr. Sylwer fod y rhan fwyaf o'r digwyddiadau ar y dudalen honno (ar wahan i'r rhai a enwir fel ffeiriau'r Gymdeithas) heb unrhyw fath o gysylltiad swyddogol â ni, maent yn ddigwyddiadau a hysbyswyd i ni gan y trefnwyr, felly ni allwn dderbyn unrhyw gyfrifoldeb am gywirder y manylion a dylech gysylltu â'r trefnwyr i wneud yn siwr. Mae yna ffurflen gysylltu ar y dudalen os hoffech yrru manylion am eich ffair grefftau i ni. (Yn anffodus, yn y Saesneg yn unig ar hyn o bryd) ![]() |