Mae Cymdeithas Crefftwyr
Gwynedd A Chlwyd yn ceisio hybu crefftwyr lleol unigol ar draws Gogledd
Cymru a'u cynnyrch lleol i'r cyhoedd. 'Rydym hefyd yn helpu a sefydlu
trefnu ffeiriau crefft newydd a mewn mannau sefydledig are draws Gogledd
Cymru.
Ers bron i 30 mlynedd bu'r Gymdeithas yn trefnu ffeiriau crefft ar
draws Gogledd Cymru, o Theatr Clwyd (Yr Wyddgrug) i Wyl Biwmares, ac o
Sioe Môn i Ganolfan Arddio Grosvenor (ger Caer). Yn 2010 sefydlwyd
ffeiriau newydd ym Mhlas Erddig (ger Wrecsam) a Gwyl Gelfyddydau Eryri
(Betws-y-Coed). Yn 2011 sefydlwyd dwy ffair ychwanegol yng nghanolfan
Manwerthiant a Chrefft Y Plassey, yn Eyton.
Mae'r cynnyrch ar werth gan ein haelodau yn y ffeiriau hyn wedi'w
gwneud â llaw yn gyfan gwbl neu'n sylweddol ganddynt. Dyma restr o
rai o grefftau'n haelodau:
- Gemwaith o sawl math
- Gwaith gwydr
- Tegannau plant a phwpedau
- Cardiau cyfarch o bob math
- Bwydydd
- Celf wal wedi'u haddurno â gemau, geodau
- Bagiau, pyrsiau a chlustogau
- Gweadwaith
- Clytwaith
- Cerameg
- Cadeiriau gwiail a stoliau troed
- Nwyddau wedi'u pwytho
- Sidan wedi'i liwio â llaw
- Crefftau memrwn
- Anrhegion pren
- Decoupage
- Crosio
|
- Crefftau broc môr
- Crochenwaith
- Gweuwaith plant bach
- Turnio coed
- Pyrograffeg
- Darluniau, ffotograffiaeth a phrintiadau
- Lluniau dyfrliw
- Llieinwaith ty
- Blychau anrhegion, cistiau pwytho a bocsus Etui
- Dillad wedi'i gwau/ffeltio â llaw
- Cynnyrch edafedd Angora
- Cerflunio Raku
- Nwyddau bach ty doliau
- Celfyddyd sidan
- Dodrefn i'r ardd
- Cadeiriau pren Cymreig
- Addurniadau Nadolig Scandinafaidd
|

Oriel fach o grefftau safon uchel ein haelodau. |
|
|
Newyddion
Ffair grefftau newydd Conwy, cychod, adroddiadau o ffeiriau crefft, gwobrau, erthyglau am aelodau, cerbyd a cheffylau a
mwy...
|
Rhestr Ffeiriau 2012
Mae rhestr o'n ffeiriau crefft ar gyfer 2012 ar gael yma. |
Eich Ffair Grefftau Chi?
Gallwn eich helpu i drefnu ffair greftau fel rhan o'ch
digwyddiad chi yn 2012 - cysylltwch â
ni am fwy o wybodaeth.
|
Cylchlythyr
Mae'r Gymdeithas yn cyhoeddi cylchlythyr rheolaidd (Saesneg yn
unig). Os hoffech danysgrifio, neu os oes gennych newyddion ar ei
gyfer, cysylltwch â Golygydd
Y Cylchlythyr.
|
|