Ymaelodi Â'r Gymdeithas'Rydym yn croesawu ceisiadau
newydd am aelodaeth gan grefftwyr yn yr ardal. Dyma ychydig o fanteision
aelodaeth:
- Prisiau arbennig ac achub y blaen bwcio stondin yn ein ffeiriau
crefft,
- Cylchlythyr rheolaidd gan y Gymdeithas,
- Rhannu gwybodaeth a phrofiad, a
- Bod mewn cysylltiad ac aelodau eraill a'r Pwyllgor.
CyfyngiadauMae rhai cyfyngiadau ar aelodaeth, yn unol â
chyfansoddiad y Gymdeithas.
- Dim mwy na 10% o'r aelodaeth yn byw tu allan i hen siroedd
Gwynedd a Clwyd (h.y. tu allan i Ogledd Cymru)
- Dim mwy na 20% o un math o grefft gan aelodaeth y Gymdeithas (er
enghraifft, gellwn wrthod ceisiadau gan emyddion os oes mwy na 20%
o'r aelodaeth yn gwneud gemwaith eisioes)
- Rhaid i'r sawl sy'n gwneud cais am aelodaeth wneud cais
ysgrifenedig i'r Ysgrifennydd Aelodaeth ar y ffurflen briodol a
rhaid darparu sampl o'ch gwaith i'r Pwyllgor ei weld mewn cyfarfod
dyfodol o'r Pwyllgor. Cysylltwch a'r Ysgrifennydd Aelodaeth i
drefnu hyn. Fel rheol, ni chaniateir cais am aelodaeth heb weld
sampl o'ch gwaith.
Yn ogystal a hyn, dylai'ch cynnyrch fod wedi'i wneud â llaw
yn gyfan gwbl neu'n sylweddol gennych chi (ni chaniateir ail-werthu
cynnyrch parod a wnaed gan rhywun arall yn ein ffeiriau crefft), a
dylech fod ag yswiriant. Dylech gysylltu a'r Ysgrifennydd Aelodaeth cyn
gyrru'r cais am aelodaeth, yn enwedig gan nad yw'r pris aelodaeth
presennol ar y ffurflen gais!
Ffurflen Cais Am Aelodaeth
Cliciwch
yma i lawr-lwytho copi o'r ffurflen Cais Am Aelodaeth (fel dogfen
Word .doc), yna wedi'w llenwi gyrrwch at yr Ysgrifennydd Aelodaeth i'r
cyfeiriad isod. Sylwch fod rhaid i'r Pwyllgor weld sampl o'ch gwaith
cyn pasio'r cais am aelodaeth. Neu
cliciwch
yma i lawr-lwytho'r ddogfen fel un PDF.
YswiriantSylwer fod rhaid i chi gael yswiriant Cyfrifoldeb
Cyhoeddus (o leiaf) os yn masnachu mewn unrhyw ffair grefft neu
marchnad. Mae sawl cwmni a brocer yswiriant ar gael wrth gwrs, ond os
ydych angen cymorth i ddod o hyd i un, dyma ychydig o awgrymiadau i chi
eu ystyried:
Ysgrifennydd AelodaethI gysylltu â'r Ysgrifennydd
Aelodaeth (nid yw'n siarad Cymraeg):
Mrs H. Whitfield-Jones
Ysgrifennydd Aelodaeth
Cymdeithas Crefftwyr Gwynedd A Clwyd
Bryn Ebrill
Llansannan
Denbigh
LL16 5NF
Ffôn: 01745-870370
Neu, gallwch yrru neges iddi
yma. |