Os oes gennych newyddion yn ymwneud â'r Gymdeithas, gyrrwch y wybodaeth at ein gwefeistr os gwelwch yn dda.

Fe
glywsom braidd yn hwyr fod y llong mordaith wedi methu a docio yn
Guernsey oherwydd y tywydd y diwrnod cynt ac felly roedd wedi cyrraedd
yn gynnar yng Nghaergybi, hefo'r canlyniad fod yr ymwelwyr cyntaf drwy
ddrysau'r ffair tipyn yn gynt na'r amser agor swyddogol, cyn i rai o'r
stondinwyr gyrraedd hyd yn oed!
Wel, son am benwythnos! Bu'r babell fawr dan ei sang ag ymwelwyr ar y
dydd Sadwrn a'r Sul, er fod tywydd dydd Llun wedi troi braidd yn wlyb.
Cyfrifwyd fod cannoedd yr awr yn ymweld a'r ffair! Bu'r fath lwyddiant yn ddigon i annog Pwyllgor y Gymdeithas i baratoi trefnu
digwyddiad o'r fath eto y flwyddyn nesaf.
Y newyddion da
i ni fel Cymdeithas yw fod nifer o ffeiriau eleni wedi'u bwcio'n llawn
yn barod! Braidd yn annisgwyl, efallai, o ystyried y sefyllfa
economaidd. Mae ffeiriau Biwmares, Conwy a Chaergybi eisoes yn llawn a
ffeiriau Sioe Môn a Grosvenor bron yn llawn. Mae ffair Betws-y-Coed yn
llawn ar hyn o bryd, ond 'rydym yn disgwyl clywed os gawn babell fwy i
allu cynnig ychydig mwy o stoliau. I holi am fwcio'r ychydig stoliau
sydd ar gael cysylltwch ag Ann Evans i holi am ffair Sioe Môn, neu Tony
Vine i holi am ffeiriau Canolfan Arddio Y Grosvenor. Cewch fanylion
cysylltu ar y dudalen Calendr Ffeiriau.
'Rydym yn y broses o drosglwyddo cyfrifoldeb am ffeiriau Y Plasau (Eyton, ger Wrecsam) i ddwylo canolfan Y Plasau eu hunain. Byddant yn ehangu ac ail-enwi y ffeiriau fel "Ffair Fwyd Wledig a Chrefftau Y Plasau", a bydd y ffeiriau mewn pabell ar safle Y Plasau. Golyga hyn y bydd Y Plasau'n gallu cynnig llawer mwy o stoliau, ac ehangu y ffair i gynnwys stoliau bwyd yn ogystal a chrefftau, ac o ganlyniad byddant yn gallu cynnig ffair fwy nag y bu'n bosibl yn yr ystafell fach llawr cyntaf y llynedd. Bydd Y Plasau yn derbyn stoliau a gafodd eu bwcio drwy'r Gymdeithas eisoes cyn mis Ebrill (ar wahan i stoliau gemwaith, i arbed gwrthdaro a siop gemwaith ar y safle). I holi am fwcio stondin, cysylltwch a Sarah Brookshaw yng nghanolfan Y Plasau, ebost "sarahbrookshaw AT btconnect DOT com neu ffoniwch 01978 780277
Ffair grefftau undydd i gyd-fynd ag ymweliad y llong Caribbean Princess â Chaergybi ar ddydd Mercher 16eg o Fai 2012. Bydd y ffair ar agor i'r cyhoedd yn ogystal. Cynhelir y ffair yn Venue Walkway, Stryd y Farchnad, Caergybi (ger y bont gerdded sy'n cysylltu'r stryd fawr a'r porthladd). Byddwn yn anfon ffurflenni bwcio i'r aelodau o fewn ychydig o ddiwrnodiau (amser ysgrifenu hyn oedd 28/02/12). Gobeithiwn y bydd yna 18 o stondinau sengl ar gael. Os ydych am fynegi diddordeb mewn bwcio stondin, cysylltwch a'r Cyd-drefnydd Ffeiriau, Ann Evans. Ar hyn o bryd, ni fyddwn yn derbyn ceisiadau gan unrhyw un nad yw'n aelod o'r Gymdeithas. (wedi bwcio'n llawn bellach)
Cadeirydd
NewyddEtholwyd Joan Bakewell (llun i'r dde) yn Gadeirydd newydd y Gymdeithas yn y Cyfarfod Cyffredinol 2012. Bu Joan yn Drysorydd y Gymdeithas am bum mlynedd, ac efallai'n fwy adnabyddus fel un hanner o gwmni gemwaith JM Crafts. Mae Joan hefyd yn olffwr brwd. Sarah Anderson - hefyd yn emydd (Sarah Anderson Jewellery) - yw'r Trysorydd newydd, a Rosalie Davies yw'r Is-Gadeirydd.
Gallwch weld rhestr o nifer o'r ffeiriau y byddwn yn eu trefnu yn 2012 ar dudalen Calendr Ffeiriau'r wefan hon. Nid yw'r holl ddyddiadau wedi eu cadarnhau hyd yn hyn. Gobeithiwn y bydd y ffurflenni cais ar gael i aelodau y Gymdeithas rhywbryd yn y flwyddyn newydd, ac ar gael i'r rhai nad ydynt yn aelodau yn nes at amser y ffair.
Dros
Gwyl Y Banc 5-7ed o Fai eleni byddwn yn cynnal ffair grefftau newydd ar
y cei yng Nghonwy. Ar safle bwrpasol hefo lle i stondinwyr barcio wrth
ei ochr, llai na munud ar droed o stryd fawr Conwy
ac o fewn pellter cerdded o'r castell ac atyniadau eraill, dylai'r
ffair hon brofi'n boblogaidd a phrysur mewn pabell fawr, yn edrych
allan
dros yr afon a'r cei.
Bydd ffurflenni cais yn cael eu gyrru i aelodau cyn diwedd Ionawr a fel y ffeiriau eraill byddwn yn fodlon derbyn cais am stondin gan rai nad ydynt yn aelodau o ddau fis cyn y ffair ac ymlaen.
'Rydym yn ddiolchgar i'r artist lleol Charles Bell (sy'n aelod o'r Gymdeithas) am ei help i sicrhau'r safle ar gyfer y ffair, wedi iddo gynnal ffeiriau bach yma dros yr haf y llynedd, ac felly'n adnabod y safle'n dda. Trist yw gorfod cyhoeddi ein bod wedi gorfod canslo ffair grefftau Erddig am y tro, er ein bod yn cadw mewn cysylltiad hefo nhw i weld os gallwn gynnal rhywbeth arall yno rhywbryd.
Newyddion ardderchog ynlyn â ffeiriau crefft Y Plasau yn 2012 - bydd ffeiriau Gorffennaf a Rhagfyr - bydd y ffeiriau yn cael eu cynnal mewn pabell fawr ar y safle! Bydd hyn yn cynnig nifer o fanteision i bawb:
Ar yr adeg dwi'n sgwennu hyn (22/01/12), 'rydym wrthi'n paratoi manylion y prisiau yn barod ar gyfer gyrru ffurflenni bwcio allan i aelodau'r Gymdeithas mor fuan ac y gallwn!



(1) Sarah Brookshaw - (2) Yn y ffair - (3) Cerbyd Sion Corn
Cynhalwyd yr ail ffair yng nghanolfan grefftau a manwerthiant Y Plasau, ger Wrecsam, dros benwythnos y 10ed a'r 11eg o Ragfyr. Trefnwyd y strafagansa gan Sarah Brookshaw o'r Plasau. Bu cryn dipyn o hysbysebu ac ati i sicrhau nifer dda o ymwelwyr i'r safle. Wedi'r cyfan, pwy na allai wrthsefyll y temtasiwn o ddod i weld Sion Corn yn cyrraedd ar ei gerbyd a dynnwyd gan ddau geffyl gwyn! Daeth Sion Corn i ymweld a'r ffair grefftau fwy nag unwaith yn ystod y penwythnos. Yn anffodus, dim ond ychydig o'r ymwelwyr ddaeth i'r ffair ei hun. Daeth Ann a baner y Gymdeithas i'w roi ger y drws ar y dydd Sul i helpu'r mater, ond yn anffodus, nid oedd y tywydd ar ei orau ar y Sul.
Mae
aelodau o bwyllgor Y Gymdeithas wedi cyfarfod a threfnydd ymweliad
mordeithiau Cyngor Mon i drafod cynnal ffair grefftau yng Nghaergybi i
gyd-fynd ag ymweliad rhai o'r llongau mawrion i Gaergybi. Er nad yw'r
trefniadau ar gyfer yr un cyntaf wedi'u cwblhau hyd yn hyn, 'rydym yn
gobeithio a cawn drefnu ffair mewn siop wag yn y stryd fawr pan ddaw'r
Caribbean Princess ar ddydd Mercher 16eg o Fai 2012. Mae hon yn long
fawr sy'n gallu dod a thros 3,000 o ymwelwyr. Gobeithiwn y bydd y ffair
hon yn un ddeniadol i grefftwyr Mon a Gogledd Cymru, yn gyfle i
arddangos crefftau o waith llaw o Gymru i nifer fawr o ymwelwyr. wrth
i'r llong gyrraedd Caergybi ar ei thaith 12 diwrnod o gwmpas ynysoedd
Prydain. Bydd mwy o fanylion ar gael yn y flwyddyn newydd. Mae Sarah
Anderson ac Ann Evans yn trefnu'r ffair ar ran y Gymdeithas, ac yn
cyd-weithio hefo Jayne Huskisson fel cyswllt hefo cyn-aelodau
cymdeithas crefftau Mon - mae'r Cyngor a phawb yn awyddus i roi cyfle i
grefftwyr yr ardal i gymeryd mantais o'r cyfle hwn!


Erthygl am ein Cynrychiolydd Wrecsam, Tony Vine! Cyhoeddwyd erthygl yn y cyhoeddiad "The Wrexham Tribune Wrexham Christmas Shopping Guide" dan y teitl 'Romancing The Stone' am ei ddiddordeb yn y grefft o osod geodau ac ati mewn fframiau - celf wal wedi'i addurno a gemwaith a geodau, a'i gysylltiad teuol ag Awstralia. Cymerwch y cyfle i ddarllen yr erthygl amdano a'i waith.

Digon o stondinau, ond prin oedd yr ymwelwyr. Dyweddodd y trefnydd Rosalie Davies y bod yna bosibilrwydd o ffair arall yno ddechrau Mis Mawrth.
Disgrifiodd
y trefnydd Tony Vine (llun ohono ar y dde) y ffair hon fel un
ardderchog, gyda'r
stondinwyr yn hapus iawn ar y cyfan hefo'r nifer o ymwelwyr a'r
gwerthiant yn ystod y ffair (penwythnos diwedd mis Hydref). Roedd y
tywydd ychydig yn fwy caredig i'r ffair hon, a'r tarmac yn para'n sych
ar waethaf ychydig o law dros nos.
Mae'r ffair grefftau wedi'i bwcio ar gyfer 26-28ain o Hydref 2012, a mae ffair grefftau newydd yno dan drafodaeth ar gyfer dechrau Awst 2012 hefyd!

(Llun llydan gan Digby o Wicanspirit)
Cynllwyniodd y tywydd a'r mwd yn ein herbyn eleni, i'r graddau y gwaharddwyd ni rhag mynd a cherbydau ar faes Cae Llan gan ei bod mor wlyb a meddal dan droed. Serch hynny, daeth tua 36 o stondinwyr at ei gilydd er y tywydd i arddangos eu gwaith yn y digwyddiad a fu mor llwyddiannus y llynedd. Estynwyd y ffair i 3 diwrnod eleni, er na fu'r nifer o ymwelwyr yn arbennig o dda ar y diwrnod cyntaf eleni. Cafodd y dewrion a ddaeth i Ŵyl Gelfyddydau Eryri yn Betws-y-Coed hafan rhag y tywydd yn y babell fawr 110 troedfedd o hyd. Gwellodd nifer yr ymwelwyr dros y penwythnos, er na ellid disgwyl cystal nifer a'r llynedd o feddwl am y tywydd braf a gafwyd bryd hynny. Gyda lwc, 'roedd y trefnydd Ann Evans wedi dod a dwy bêl o wellt hefo hi - golygai hynny nad aeth y ddaear dan droed mor wlyb a llithryg ag yr ofnwyd tu fewn i'r babell, heb son am yr olwg wledig a roddodd y gwellt tu fewn i'r babell! Aeth y stondinwyr Dave Wright a Charles Bell mor bell a chasglu dail o'r tu allan i'w gwasgaru o flaen eu stondinnau, i roi ychydig o liw yr hydref iddynt.
Gyda dyfodiad nos Sul, 'roedd rhaid ystyried sut i wagu'r babell gan nad oedd modd dod a cherbydau ar y maes gan ei bod mor wlyb a mwdlyd dan droed. Felly, gyda help Digby o Wicanspirit a'i drelar bach, fe lwyddom i gario nwyddau pawb o'r babell i'r maes parcio bach gyferbyn a gwesty'r Royal Oak - mae'n siwr na fyddai'r fyddin wedi gallu creu cynllun mor llwyddiannus! Ble fuasem heb Digby, 'dwch? Felly, diolch yn fawr iawn iawn iawn i Digby a'i drelar, ac i'r ychydig rai a arhosodd i helpu nes bod yr olaf un (Digby!) wedi gallu symud pob dim allan o'r babell.
Cafwyd cryn dipyn o adloniant arbennig yn
yr Ŵyl Gelfyddydau dros y penwythnos, a cawsom dipyn o gerddoriaeth
gefndir o bryd i'w gilydd tu allan i''r babell ac ambell i ddawnsiwr
morris yn eu gwisgoedd lliwgar a sain y clychau yn ymweld a'r
babell i ychwanegu dipyn o liw a sain i'r penwythnos!
Roedd hi'n bleser gweld nifer o aelodau newydd y Gymdeithas gyda stondinnau yn y babell fawr eleni, a gobeithio y byddant yn parhau i arddangos eu gwaith gyda ni yn y dyfodol. Gofynnodd nifer ohonynt i mi ychwanegu dolen gyswllt i'w gwefannau nhw oddi ar y wefan hon, felly bydd modd i chi weld pwy ydynt a pha fath o grefftau y maent yn eu llunio â llaw.
Edrychwn ymlaen felly i'n digwyddiadau sydd eto i ddod eleni - y ffair yng Nhanolfan Arddio Grosvenor ddiwedd mis Hydref (a drefnir gan Tony Vine), Clwyd Theatr Cymru, yr Wyddgrug ddiwedd mis Tachwedd (trefnydd Rosalie Davies), ac yng Nhanolfan Y Plasau, Eyton, ger Wrecsam mis Rhagfyr (trefnydd Ann Evans).
Wrth i mi sgwennu hwn, mae'r tâl bagiau sipa bron a chyrraedd yma yng Nghymru. Wrth gwrs, mi ddylai olygu llai o wastraff a 'sbwriel ac annog pawb i ail-ddefnyddio bagiau siopa a gwell fyth defnyddio bagiau aml-ddefnydd - wedi'r cyfan, y ffordd hawdd o osgoi'r 5c y bag ydy ail-ddefnyddio bagiau a gwneud yn siwr fod bag siopa aml-ddefnydd gennych wrth fynd i ffeiriau crefft!
Os ydych yn grefftwr ac am ffeindio allan mwy am y tâl, mae'n pwyllgorydd Tony Vine wedi paratoi dogfen fer i helpu aelodau hefo'r drefn newydd, a gall aelodau ofyn am gopi ganddo - mae hefyd yn gobeithio rhoi gwybodaeth am y drefn newydd yn ein cylchlythyr nesaf. Mae gan y llywodraeth wefan hefo llawer o wybodaeth ar y pwnc, sy'n cynnwys gwybodaeth ar gyfer masnachwyr a chwsmeriaid - ewch i'r wefan http://www.carrierbagchargewales.gov.uk am fwy o wybodaeth - mae'r wefan ar gael yn y Gymraeg yn ogystal a'r Saesneg.
Bydd Jayne Huskisson, sy'n aelod o'r Gymdeithas, yn cynnal ei harddangosfa celf gweol unigol nesaf yn Oriel Ger Y Fenai, Llanfairpwll, Ynys Môn LL61 5YQ ym mis Medi eleni.
Bydd y noson agoriadol ar nos Wener yr ail o Fedi, o saith tan naw yr hwyr.
Bydd yr arddangosfa ar fynd tan ddydd Sul 18ed o Fedi.
Ceir mwy a fanylion am Jayne, ei gwaith a'r arddangosfa ar wefan Anglesey Textile Art, ac ar wefan Oriel Ger Y Fenai.


Blwyddyn
arall o grefftau i ni yn y Primyn. Tywydd hollol wahanol rhwng y dydd
Mawrth a dydd Mercher a arweiniodd at wahaniaeth mawr yn nifer ymwelwyr
ar y ddau ddiwrnod. Cawsom dywydd da ar y diwrnod cyntaf, broblemau
traffig, a nifer ardderchog o ymwelwyr i'n pabel ni fel y gwelwch yn y
llun. Dirywiodd y tywydd erbyn yr ail ddiwrnod, er fod ein pabell fawr
wedi denu nifer rhesymol trwy rhoi cysgod da i'r hynny o ymwelwyr druan
a fentrodd i'r cae yn ystod y dydd.
'Doedd genni fawr i'w wneud erbyn y prynhawn ar y diwrnod cyntaf, felly mi es ati i gyfri nifer ymwelwyr drwy'r drws am gyfnodau o bum munud ar y tro tra'r oedd hi'n brysur - cefais dipyn o sioc o sylweddoli bod tua cant o bobl o bob oed yn dod i mewn bob pum mund - tua 1200 yr awr rhwng amser cinio a chanol y prynhawn. Mawr syndod felly bod dipyn o wên ar wynebau y stondinwyr ddydd Mawrth!
Y wên fwyaf erbyn dydd Mercher oedd un Sheila Garlick, o gwmni Little Gems Knitwear (llun ar y dde). Wedi ennill gwobr am ei gwnïo ddwy waith mewn dwy flynedd eisoes, fe aeth hi a'i merch gam ynhellach eleni drwy ennill gobrau gwnïo a chrosio yn a babell crefftau a chynnyrch eleni eto! Da iawn, Sheila - unwaith eto mae safon uchel gwaith aelodau'r Gymdeithas wedi taro deuddeg.
Er na wyddom ar y pryd, 'roedd yna bobl reit bwysig wedi ymweld â phabell y Gymdeithas eleni. Ar ôl y sioe, cafodd ein Trefnydd Ffeiriau wybod eu bod wedi'u plesio'n fawr hefo safon uchel ein cynnyrch, y ffaith eu bod wedi'u gwneud â llaw yma yng Ngogledd Cymru a hefyd safon cyflwyniad y stondinau. Er na allwn addo dim eto, gall y safonnau uchel yma fod wedi arwain at ffeiriau pwysig newydd i ni y flwyddyn nesaf. Cadwch lygad ar y dudalen newyddion yma cyn diwedd y flwyddyn am fwy o newyddion fel y daw, gobeithio.
Mae pwynt unigrwydd gwerthiant y Gymdeithas ("Crefftau O Safon Uchel O Waith Llaw, a Wnaed Yng Nghymru") yn denu mwy a mwy o sylw ac yn arwain at fwy o ymholiadau aelodaeth a mwy a mwy am gael stondin yn ein ffeiriau.

Cynhalwyd
ein ffair grefftau gyntaf yng Nghanolfan Grefftau a Manwerthiant Y
Plasau yn Eyton, ger Wrecsam, yn yr ystafelloedd uwchben y ty bwyta
yno, dros benwythnos y 23-24ain o Orffennaf 2011. Bu mwy o ymwelwyr i'r
ffair ar y Sadwrn nag ar y Sul, efallai oherwydd i'r tywydd braf yrru
pawb i'r traeth yn hytrach na ffair grefftau ar y Sul!
Golygai maint yr ystafelloedd mai ychydig dan 12 o stondinau (rhai'n reit fawr!) gawsom ni yn y ddwy ystafell uwchben y ty bwyta. Awgrymodd y trefnydd, Ann Evans, y dylid cwtogi rhywfaint ar faint y stondinoedd mwyaf y flwyddyn nesaf os cynhelir ffeiriau yno bryd hynny, fel y gallwn sicrhau mwy o stondinau yno.
Bydd yna ffair grefftau ychwanegol yn Y Plasau ar y 10/11eg o Ragfyr 2011, fel rhan o'r strafgansa fawr Nadoligaidd yn yr adeiladau Edwardaidd. Mae'r ffair hon wedi'i bwcio'n llwyr yn barod!
Isod mae yna nifer o luniau a dynnwyd yn y ffair mis Gorffennaf, gyda llun o'r trefnydd Ann Evans yn y canol.

![]() Charles Bell yn derbyn y dystysgrif Stondin Orau gan Gadeirydd Cyngor Môn (ar y chwith), Maer Biwmares (ar y dde) a'r Faeres. |
![]() Yr artist wrthi'n gweithio ar ei ddarlun dyfrliw morwrol diweddaraf. |
![]() Charles Bell a'r dystysgrif wedi'i fframio ar ei stondin. |
Charles Bell, arlunydd morwrol a thirluniau dyfrliw o Rowen ger Conwy a ennillodd Gwobr y Stondin Orau yn ffair grefftau Gwyl Biwmares ar yr 28ain o Fai 2011.
Yn aelod o'r Gymdeithas am lai na dwy flynedd, cafodd gryn sioc pan gyhoeddwyd yr enillydd, ond llwyddodd i ddweud ei fod am ddathlu'n syth gyda chwpanaid o Ribena poeth!
Dyfarnwydd y wobr Stondin Orau gan Faer Biwmares, Clay Theakston, y Faeres, a Chadeirydd Cyngor Môn, y cynghorydd Gwilym O. Jones.
Fe gymerodd y dyfarnu lawer hirach na'r disgwyl - eglurasant eu bod wedi cael ychydig o drafferth oherwydd y safon uchel iawn yn y ffair grefftau. Yn ogystal, soniodd y cynghorydd Jones yr argraff dda gafodd o flaen llaw tra'n edrych ar wefan y Gymdeithas, yn enwedig y ffaith fod y wefan yn gwbl ddwy-ieithog.
Mae gwaith Charles yn canolbwyntio ar olygfeydd bendigedig glannau Gogledd Cymru. Mae hefyd yn derbyn gwaith comisiwn. Gallwch weld mwy am ei waith ar ei wefan ar http://charlesbellart.com